EuropeSouth AsiaAsia PacificAmericasMiddle EastAfricaBBC HomepageWorld ServiceEducation
BBC Homepagefersiwn graffeg isel | adborth | cymorth
BBC Newyddion
 Dyma safle: Newyddion
Tudalen flaen 
BBC Cymru'r Byd 
Clecs Cymru 
newyddion mewn ieithoedd eraill
BBC News Online
Arabic
Spanish
Russian
Chinese
Dydd Llun, 4 Rhagfyr, 2000, 07:36 GMT
Cyferiaid e-bost i Gymru
Tudalen flaen @Cym.ro
Gwasanaeth newydd i ddefnyddwyr e-bost yng Nghymru
Mae cwmni o Gaernarfon wedi sefydlu cyfeiriad e-bost unigryw a newydd i Gymru.

Mae'n bosib bellach prynu cyfeiriad sy'n gorffen gyda @cym.ro .

Yn ôl Michael Roberts, sylfaenydd y cwmni, mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn y wasg yn ddiweddar ynglyn â chyfeiriadau ar y we.

Doedd dim cyfeiriad, serch hynny, yn cael ei gysylltu'n uniongyrchol gyda Chymru tan i Mr Roberts fynd ati i sefydlu'r gwasanaeth.

Cyfeiriad unigryw

Wrth lansio'r gwasanaeth cyfeiriad e bost mae @Cym.ro wedi lansio eu safle gwe newydd hefyd.

Drwy'r safle mae modd prynu cyfeiriad personol ac unigryw.

Rhan o gwmni sy'n dylunio a chyhoeddi ar y we, Gwasanaethau Delwedd, ydy@Cym.ro.

"Roedden ni'n gweld fod cael hunaniaeth Gymreig ar y we'n bwysig i nifer o bobol," meddai Mr Roberts.

"Roedd nifer o bobol wedi gofyn i ni os oedd modd cofrestru eu cwmni ar y we mewn ffordd i ddangos eu bod yn dod o Gymru.

Diddordeb

"Dydy hyn ddim yn bosib, a hyd y gwyddom ni does yna ddim cynlluniau i wneud hyn yn bosib.

"Yr hyn yr ydym ni'n gynnig ydy cyfle i roi cyfeiriad e bost gyda'r cyfeiriad yn dangos mai o Gymru mae'r defnyddwyr yn dod."

Er mai ar ddechrau mis Rhagfyr y cafodd y gwasanaeth ei sefydlu mae nifer o bobol wedi dangos diddordeb yn yr hyn sydd ar gael.

Mae'r cwmni hyd yn oed wedi derbyn ymholiad o Efrog Newydd.

"Gan nad oes gan Gymru ei chyfeiriad ei hun bu'n rhaid i'r cwmni brynu'r enw 'cym' gan yr awdurdod cofrestru yn Romania gan greu'r cym.ro," ychwanegodd Mr Roberts.

Mae'r cwmni'n gobeithio ehangu'r gwasanaeth a sicrhau bod cyfeiriad gwe uniongyrchol i Gymru'n cael ei sefydlu.

"Rydan ni'n bwriadu sefydlu deiseb electroneg sy'n gofyn am 'domain name' i Gymru a'i yrru ymlaen wedyn i'r Cynulliad a'r Prif Weinidog.

Cysylltiadau Rhyngrwyd:


Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd Rhyngrwyd allanol.